Gyda’r argyfwng Covid-19 presennol, mae pobl ifanc yn dal i gael trafferth oherwydd nad oes ganddynt yr offer i’w galluogi i ymgymryd â dysgu ar-lein gartref. Dros y pythefnos diwethaf, mae Sefydliad Neumark, sydd wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru, wedi bod yn canolbwyntio ar geisio cefnogi disgyblion Blwyddyn 10 ac 11 ar draws awdurdodau lleol Gogledd Cymru, trwy ariannu Chromebooks ar gyfer y rhai heb dechnoleg addas.
Hyd yn hyn, rydym ni yn Sefydliad Neumark wedi buddsoddi £72,000 i brynu 340 o Chromebooks ein hunain, ar gyfer y bobl ifanc hynny yr ydym wedi’u nodi drwy’r tri awdurdod, sef Sir y Fflint, Wrecsam a Sir Ddinbych sydd mewn angen. Fodd bynnag, yn Sir Ddinbych yn unig nododd arolwg diweddar bron i 2,000 o ddisgyblion heb fynediad ar-lein. Felly mae’r angen yn un brys. Rydym yn chwilio am sefydliadau ac unigolion a hoffai addo eu cefnogaeth gyda rhoddion i helpu’r bobl ifanc sy’n weddill sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol.
Gwyddom yr effaith aruthrol, andwyol y mae colli dysgu yn ei chael ar y bobl ifanc hyn a’u canlyniadau addysgol, ac mae angen inni weithredu’n awr.
Mae pob Chromebook yn costio tua £200, ac felly rydym wedi gosod nod i godi £100,000 pellach cyn gynted ag y gallwn.
Rydym wedi sefydlu Dolen GoFundMe ar gyfer sefydliadau ac unigolion a hoffai ychwanegu eu cefnogaeth.