Your Voice Your Rhyl

Am ddiwrnod anhygoel yn Eich Llais, Eich Rhyl!

Diolch yn fawr iawn i bawb a ymunodd â ni, o drigolion lleol a phobl ifanc i grwpiau cymunedol, cyllidwyr, y Prif Weinidog, Gweinidog Swyddfa Cymru Claire Hughes, a’n partneriaid, am rannu eich syniadau, brwdfrydedd, a gobaith ar gyfer dyfodol y Rhyl.

Roedd yr ystafell yn llawn egni, cydweithio, a phositifrwydd ynglŷn â’r hyn sy’n bosibl pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd. Mae’r sgyrsiau a’r cysylltiadau a wnaed wedi rhoi man cychwyn cryf inni i lunio’r camau nesaf ar gyfer newid yn y Rhyl.

Rydym nawr yn dwyn ynghyd yr holl fewnwelediadau a chyfraniadau gwych, a fydd yn ein helpu i nodi blaenoriaethau allweddol a ffurfio grŵp partneriaeth bach i symud y gwaith hwn ymlaen.

Diolch o galon i bawb a helpodd i wneud y digwyddiad yn bosibl, yn enwedig y tîm yn Brighter Futures , pobl ifanc y Rhyl am eu hymchwil ac Adroddiad BRHYLiant, Clwb Rygbi’r Rhyl am ein croesawu ni, Sefydliad Cymunedol Cymru a’n partneriaid, Y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth, Wicked Wales am ffilm a thechnoleg, Right Succeed , Place Matters , Sefydliad Steve Morgan , Prifysgol Wrecsam , a Made in Stoke .

Gyda’n gilydd, rydym yn dechrau rhywbeth cyffrous i’r Rhyl.
Dysgwch fwy yn www.yourvoiceyourrhyl.com