The Denbigh Workshop

Yn ein cyfarfod Bwrdd diwethaf, roedd ein Hymddiriedolwyr yn falch iawn o gymeradwyo cyllid ar gyfer prosiect theatr leol a chelfyddydol, The Denbigh Workshop.

Yn cael ei rhedeg gan Tracy Spencer Jones, sefydlwyd yr elusen hon yn 2016 i ganolbwyntio ar ddatblygiad personol a chymunedol, a newid cadarnhaol.

Dywedodd Tracy “Rydym yn angerddol am allu trawsnewidiol y celfyddydau i hybu llesiant, gwella amgylcheddau ac ymgysylltu â chymunedau. Rydym yn adeiladu hyder a hunan-barch gan ddefnyddio technegau drama a theatr.”

Bydd y cyllid rydym yn ei ddarparu yn helpu i sybsideiddio cost eu Theatr Ieuenctid Sadwrn i ddarparu cyfleoedd i tua 35 o bobl ifanc leol bob wythnos i weithio gydag actorion proffesiynol i fagu hyder, gwella sgiliau cyfathrebu a chynyddu ymdeimlad o berthyn.

Rydym yn falch iawn o allu darparu cefnogaeth ar gyfer y prosiect hwn. Da iawn i Tracy a’r tîm yn The Denbigh Workshop am y gwaith anhygoel, gwerthfawr rydych chi’n ei wneud gyda phobl ifanc yn yr ardal leol.

Os hoffech chi ddarganfod mwy am Weithdy Dinbych a’r prosiectau gwych maen nhw’n ymwneud â nhw, ewch i https://www.thedenbighworkshop.com

Gweithdy Dinbych