Parlys yr Ymennydd Cymru

Emma Brooks, rheolwr codi arian ymddiriedolaethau a chymynroddion, Parlys yr Ymennydd Cymru

“Galluogodd Sefydliad Neumark ni i barhau i ddarparu ein gwasanaeth therapi hanfodol i blant â pharlys yr ymennydd yng Ngogledd Cymru yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf, a’r misoedd wedyn, pan oedd ein hincwm wedi’i effeithio’n ddifrifol ar y pryd oherwydd argyfwng Covid-19. Roeddem yn gallu darparu 10 sesiwn therapi rhithwir i bump o blant, rhwng 18 mis a 4 oed, a’u teuluoedd. Mae’n arbennig o allweddol ein bod yn gweld plant rhwng genedigaeth a 2½ oed cyn gynted â phosibl gan mai dyna pryd y gallwn gael yr effaith fwyaf arwyddocaol oherwydd plastigrwydd yr ymennydd yn y blynyddoedd cynnar. Helpodd cyllid y Sefydliad i sicrhau nad oeddem yn colli’r ffenestr hon o gyfleoedd i’r plant dan 2 ½.

“Yn fwy diweddar mae’r Sefydliad wedi ariannu rhaglen therapi lleferydd a therapi arbenigol blwyddyn o hyd ar gyfer plentyn â pharlys yr ymennydd yng Ngogledd Cymru. Mae cyfathrebu yn angen dynol sylfaenol. Gall plant â pharlys yr ymennydd fod yn ddeallus iawn ond heb y sgiliau i leisio’n effeithiol yr hyn y maent ei eisiau, ei angen neu’r hyn y maent yn ei feddwl. Gall hyn arwain at rwystredigaeth ddwys ac ymdeimlad o unigedd.

“Mae manteision y cyllid hwn yn bellgyrhaeddol; gall gwell gallu i gael ei ddeall agor byd plentyn, gan leihau rhwystredigaeth ac ynysigrwydd cymdeithasol a’u galluogi i fynegi eu hanghenion, dangos eu gallu gwybyddol a rhyngweithio â’u cyfoedion.”