Gofalwyr Ifanc
Diweddariad gan Sarah Dickinson Rheolwr Rhaglen Ysgolion ar gyfer Gofalwyr Ifanc Gogledd Cymru

Yn ôl yn 2020, dechreuodd Sefydliad Neumark ariannu ein rhaglen arloesol i gefnogi ysgolion ledled Gogledd Cymru, i’w helpu i adnabod gofalwyr ifanc cudd, ac i gynnig cymorth wedi’i deilwra i’r disgyblion a’r ysgolion hyn. Gyda chymorth priodol, mae tystiolaeth wedi dangos, er gwaethaf eu heriau, y gall y gofalwyr ifanc hyn gyflawni gwell ansawdd bywyd iddynt eu hunain. Gall cefnogaeth strwythuredig a gwell dealltwriaeth gan staff a chyfoedion mewn ysgolion wella eu mwynhad o’u profiad addysgol, gan annog dysgu mwy effeithiol a chadarnhaol, ac mae hyn yn aml yn arwain at leihad sylweddol mewn absenoldebau o’r ysgol.

Mae’r rhaglen bwysig hon, sy’n cael ei rhedeg gennym ni, gyda Gofalwyr Ifanc Gogledd Cymru, wedi tyfu’n sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac rydym yn gyffrous iawn i roi’r newyddion diweddaraf i chi ar y cynnydd rydym wedi’i wneud.

Er gwaethaf yr aflonyddwch i addysg, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae 358 o blant a phobl ifanc wedi’u nodi ar draws Wrecsam, Sir Ddinbych a Chonwy, fel gofalwyr ifanc. Ers nodi’r plant a’r bobl ifanc hyn, mae pob un ohonynt wedi derbyn cynllun cymorth wedi’i deilwra, i’w ddefnyddio gan eu hysgol, i wella eu profiad addysgol, a’u helpu i gyflawni eu gwir botensial.

Y cynllun yw ehangu’r gwasanaeth ymhellach, gan ei wneud ar gael i fwy o ysgolion, gyda’r nod o adnabod a chefnogi mwy o blant sy’n ofalwyr ifanc cudd, anhysbys ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, rydym yn recriwtio staff newydd, gyda chymorth ychwanegol pellach trwy bartneriaeth ariannu gydweithredol rhwng Sefydliad Neumark, Sefydliad Waterloo, a Sefydliad Steve Morgan.