Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi dyfarnu £35,000 i’r elusen wych Youth Shedz, a sefydlwyd gan ShedBoss, Scott Jenkinson, i gyflogi Gweithiwr Ieuenctid arall oherwydd eu llwyddiant anhygoel y maent wedi’i gael yn gwella bywydau a chyfleoedd pobl ifanc ar draws Gogledd Cymru, drwy eu menter.
Elusen yw Youth Shedz sydd â’r nod o gyrraedd y bobl ifanc sydd wedi’u datgysylltu fwyaf drwy ddarparu man diogel i bobl ifanc 11 i 18 oed, a 16 i 25 oed, i archwilio eu hunaniaeth a datblygu perthnasoedd cymdeithasol, ochr yn ochr â modelau rôl cadarnhaol.
Dywedodd Scott “Ein cryfderau yw nad ydym yn dibynnu ar niferoedd mawr nac yn mabwysiadu dull grŵp ieuenctid nodweddiadol; mae gennym berthnasoedd rhagorol ac enw da ar draws ardal Gogledd Cymru, gan weithio gyda Heddlu Gogledd Cymru, Ysgolion a chynghorau lleol i dargedu pobl ifanc sydd angen cymorth i ddatblygu perthnasoedd cymdeithasol a dysgu sgiliau newydd.”
Mae Youth Shedz bellach wedi sefydlu prosiect mewn 5 ardal yng Ngogledd Cymru, gyda rhai newydd yn cael eu cychwyn yng Nghaergybi a Bwcle, a bws allgymorth hefyd sy’n gwneud gwaith ymgysylltu a chwmpasu ar draws yr ardal.